Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 2018

Manylion:

Awduron: Holly Walsh, James Allen, Hugo Cosh, Andrew Dring, Arthur Duncan-Jones, Rhian Hughes, Grace Jefferies, Leon May, Rhys White

Mae’r adroddiad Iechyd a’i Phenderfynyddion yng Nghymru yn rhoi trosolwg o iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, gan gynnwys baich clefyd. Mae’n amlinellu’r prif achosion marwolaeth, anabledd a salwch sy’n ffurfio’r darlun o iechyd yng Nghymru. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol sy’n ein hwynebu, nawr ac yn y dyfodol.

Negeseuon allweddol

Beth yw Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru?

Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth lefel uchel ac enghreifftiau darluniadol sy’n cwmpasu themâu eang. Mae’n defnyddio amcangyfrifon baich clefydau o’r adroddiad Global Burden of Disease (2016) i gael ffactorau iechyd a risg cyffredinol i gynorthwyo wrth ystyried blaenoriaethau cymharol.

Ysmygu yn y gorffennol yw’r ffactor risg sy’n cyfrannu fwyaf at y baich o glefydau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys bod canser bellach yn achosi mwy o faich clefydau na chlefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru, ac mai anhwylderau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau meddwl a defnyddio sylweddau yw’r prif achosion blynyddoedd byw gydag anabledd.

Mae’r adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am benderfynyddion ehangach iechyd, gyda sylw penodol yn cael ei roi ar blant. Mae’n cynnwys cymariaethau rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r gwledydd hynny sydd â’r canlyniadau gorau yn ei gyflawni, ac mae’n dangos tueddiadau yn y gorffennol a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd Gwybodaeth Iechyd ein bod yn gwybod bod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio, a’r disgwyliad yw i hynny arwain at nifer cynyddol o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran, ac yn gwybod nad ydym yn gwneud y cynnydd yr oeddem yn gobeithio amdano o ran lleihau anghydraddoldebau. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn edrych ar ffactorau risg, mynychder a rhagamcanion o ddigwydded rhai o’r problemau iechyd yr ydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad wedi’i ddatblygu i gefnogi strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac rydym wedi rhyddhau fersiwn interim i helpu cydweithwyr ar draws y GIG, rydym bellach yn rhyddhau fersiwn gyhoeddus wedi’i diweddaru ac rydym yn gobeithio y bydd yn offeryn gwerthfawr i gyrff cyhoeddus eraill sy’n datblygu strategaethau a chynlluniau hirdymor tebyg ledled Cymru ar hyn o bryd.

Mynychder clefydau 2023

Yn 2023, rydym wedi cychwyn ar raglen waith newydd sy’n edrych ar dueddiadau o ran clefydau, amcanestyniadau clefydau 10 mlynedd, tueddiadau ffactorau risg, ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o ymatebion iechyd cyhoeddus ac effaith y rhain ar gostau i’r system iechyd.  Dysgwch fwy am yr allbwn diabetes.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru (Saesneg yn unig)

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru (Saesneg yn unig) (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill:

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig