Gwerthusiad Uned Atal Trais Cymru yn rhannu’r gwersi ar gefnogi partneriaethau atal trais
Awduron: Ellie McCoy, Chloe Smith, Rebecca Harrison, Alice Booth-Rosamond, Hannah Timpson, Zara Quigg, Alex Walker
Cyhoeddwyd ar: 11eg Rhagfyr 2024
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae gwerthusiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn archwilio’r dull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais, sy’n darparu gwersi allweddol ac ystyriaethau ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.
Wedi’i gynnal gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, mae’r gwerthusiad yn darparu gwersi pwysig ar sut i roi gweithgarwch atal trais ar waith yn lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy’n galluogi’r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.
Mae’r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy’n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o’r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi’r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.
Gwelwch adroddiad gwerthuso Caerdydd yma.
Gwelwch astudiaeth achos gwerthuso Caerdydd yma.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad-gwerthusiad-Uned-Atal-Trais-Cymru
PDF, 405KB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad-gwerthusiad-Uned-Atal-Trais-Cymru (405 KB)
Llawrlwytho PDF