Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Penderfynyddion ehangach iechyd, fel ein harian a’n hadnoddau, lefel ein haddysg a’n sgiliau, mynediad at waith teg, ansawdd a diogelwch ein tai a’n hamgylchoedd, yw sylfeini iechyd a llesiant. Mae ymchwil wedi dangos bod gwasanaethau gofal iechyd yn cyfrif am gyfran gymharol fach yn unig o farwolaethau y gellid eu hatal a bod ymddygiadau cysylltiedig ag iechyd yn cael eu ffurfio gan ffactorau cymdeithasol.

Credir bod cyrhaeddiad addysgol a chysyniad ehangach cysylltiedig o gyflawniad addysgol, yn cael effaith ar iechyd trwy dri phrif lwybr i) gwaith a photensial incwm, ii) llythrennedd iechyd ac ymddygiadau cysylltiedig ag iechyd a iii) ffactorau seicogymdeithasol. Yn ei dro, mae iechyd plant yn effeithio ar eu cyrhaeddiad (achosiaeth wrthdro).

Yn rhan o raglen waith a geisiodd amlygu lle y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru ychwanegu gwerth a chael yr effaith fwyaf o ran lleihau bwlch anfantais economaidd-gymdeithasol cyrhaeddiad addysgol, cynhaliwyd ymarfer mapio systemau gyda rhanddeiliaid ym meysydd addysg ac iechyd. At ddibenion y gweithgarwch mapio, penderfynwyd cadw’r system o ddiddordeb yn eang gyda phwyslais ar ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflawniad addysgol yn hytrach na chanlyniad culach cyrhaeddiad addysgol neu’r bwlch cyrhaeddiad addysgol yn fwy penodol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ffactorau sy'n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru - ymagwedd mapio systemau

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Ffactorau sy'n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru - ymagwedd mapio systemau (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill:

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig