Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad byd-eang mwyaf difrifol yr ydym yn ei wynebu. Bydd ei ganlyniadau yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd sy’n hanfodol i gyflawni a chynnal iechyd da.

Mae hyn unwaith eto wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth ddofn rhwng llesiant poblogaeth, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Crynodeb gweithredol

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cydnabod ei rôl wrth fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Adlewyrchir hyn yn strategaeth hirdymor ddiwygiedig y sefydliad.

Mae ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ar gyfer 2024-2026 yn dilyn cynllun cyntaf y sefydliad ar gyfer 2022-2024. Mae’n amlinellu’r gwaith y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i gyrraedd targed GIG Cymru o sero net erbyn 2030 a’n hamcan carbon negyddol erbyn 2035, fel y nodir yn ein Strategaeth Hirdymor.

Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o ddatblygiad y cynllun cyntaf, mae’r fersiwn hon o’r Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd 2024-26 wedi’i datblygu’n fewnol, dan arweiniad Gweithgor Gweithredu Datgarboneiddio.

Oherwydd y gorgyffwrdd rhwng datgarboneiddio, yr economi sylfaenol a’r economi gylchol, bioamrywiaeth a’n rôl wrth roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith, mae’r cynllun newydd hwn hefyd yn cynnwys camau gweithredu sy’n hyrwyddo egwyddorion yr agendau cynaliadwyedd hyn.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026

PDF, 1,003KB

Llawrlwytho PDF - Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026 (1,003 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig