Dwysedd mannau gwerthu bwyd sydyn yng Nghymru 2019
Awduron: Claire Beynon, Linda Bailey
Cyhoeddwyd ar: 1af Chwefror 2019
Fel rhan o’r astudiaeth ymchwil ehangach hon, fe amcangyfrifwyd dwysedd y safleoedd gwerthu bwyd sydyn yn ôl pob 100,000 o breswylwyr yng Nghymru.
Mae’r adroddiad byr hwn yn disgrifio’r dulliau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ffigwr ar gyfer dwysedd safleoedd bwyd sydyn yn ôl pob 100,000 o bobl. Defnyddiwyd data sgoriau safonau bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i adnabod y safleoedd perthnasol.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r meini prawf diamwys a ddefnyddiwyd i’w cynnwys a’u diystyru, ynghyd â’r amcangyfrifon ar gyfer ardal pob awdurdod lleol. Cyflwynir hyn wedyn ar ffurf map gwres o Gymru, lle y gellir cymharu’n weledol ddwysedd safleoedd gwerthu bwyd sydyn yn ôl ardal awdurdod lleol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Dwysedd Mannau Gwerthu Bwyd Sydyn yng Nghymru 2019
Word doc, 558KB
Llawrlwytho Word doc - Dwysedd Mannau Gwerthu Bwyd Sydyn yng Nghymru 2019 (558 KB)
Llawrlwytho Word doc