Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dull Iechyd y Cyhoedd o Gynorthwyo Rhieni

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 18fed Ionawr 2023

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio dull iechyd y cyhoedd o gynorthwyo rhieni yn ystod y 1000 o ddiwrnodau cyntaf. Mae’r model yn dwyn ynghyd y theori, y dystiolaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf mewn perthynas â phrofiadau bywyd rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae’n nodi’r conglfeini allweddol y mae angen eu sefydlu i helpu rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu ac yn trafod goblygiadau ar gyfer polisïau ac arferion i alluogi mabwysiadu dull o’r fath yng Nghymru. Bydd yn berthnasol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella deilliannau i blant yng Nghymru, yn arbennig, arweinwyr polisi, grwpiau proffesiynol allweddol megis bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, a phartneriaethau strategol lleol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Dull Iechyd y Cyhoedd o Gynorthwyo Rhieni

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Dull Iechyd y Cyhoedd o Gynorthwyo Rhieni (2 MB)

Llawrlwytho PDF