Diweddariad calendr cryno sganio’r gorwel rhyngwladol a dysgu er mwyn llywio ymateb ac adferiad iechyd cyhoeddus COVID-19 Cymru Ebrill 2020 – Mawrth 2021
Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova, Claire Beynon, Anna Stielke, James Allen, Abigail Malcolm (née Instone), Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham
Cyhoeddwyd ar: 17eg Mawrth 2022
- Rhyngwladol
Mae’r Calendr Cryno Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu hwn yn ddiweddariad o’r Calendr Cryno blaenorol sydd i’w weld yma a fu’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, syntheseiddio a chyflwyno crynodeb clir a chryno o Adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, ers mis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022. Mae ffrwd waith Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu wedi’i brofi i arddangos ymchwil llawn gwybodaeth ac effaith wrth gywain data o wledydd eraill ac wedi darparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur ac ansicrwydd y pandemig COVID-19 esblygol, gan geisio gwella a chyfeirio’r fath gamau gweithredu ac ymagweddau yng Nghymru. Nod y crynodeb yw cyfeirio trosolwg cryno o gamau polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi ac yn parhau i gefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, fwy cyfartal, gwydn, ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalen synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio’r Gorwel Rhyngwladol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Diweddariad calendr cryno sganio’r gorwel rhyngwladol a dysgu er mwyn llywio ymateb ac adferiad iechyd cyhoeddus COVID-19 Cymru Ebrill 2020 - Mawrth 2021
PDF, 11MB
Llawrlwytho PDF - Diweddariad calendr cryno sganio’r gorwel rhyngwladol a dysgu er mwyn llywio ymateb ac adferiad iechyd cyhoeddus COVID-19 Cymru Ebrill 2020 - Mawrth 2021 (11 MB)
Llawrlwytho PDF