Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dangosyddion arfaethedig ar gyfer dulliau sy’n seiliedig ar asedau yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Louise Woodfine, Dr Ciaran Humphreys

Cyhoeddwyd ar: 8fed Mai 2015

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Yn y DU mae ymwybyddiaeth gynyddol o botensial dulliau sy’n seiliedig ar asedau (ABA) ar gyfer gwella iechyd a llesiant. Er gwaethaf y defnydd o ddulliau o’r fath, dim ond ychydig o ddatblygiad a welwyd o ran mesur ABA ac adrodd ar ei effaith, ac nid oes un offeryn yng Nghymru sy’n ymwneud â data asedau iechyd. Mae mapio asedau a dull seiliedig ar asedau yn dibynnu ar weithio’n lleol gyda chymunedau; gall data sydd ar gael yn genedlaethol helpu i roi cyd-destun ac i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn.

Trwy weithio gyda chydweithwyr ledled Cymru, yn ogystal â set ddysgu ABA Gogledd Cymru, mae awdur y papur hwn yn cynnig fframwaith ac yn nodi detholiad o ddangosyddion posibl ar ran yr Arsyllfa y gellid eu defnyddio i fesur ac i adrodd ar ABA yng Nghymru. Mae hyn wedi’i lywio gan dystiolaeth a damcaniaethau ar gyfer dulliau sy’n seiliedig ar asedau, y dulliau a ddefnyddir gan eraill, y polisi a’r data sydd ar gael. Mae set ddysgu Gogledd Cymru yn bwriadu rhannu canfyddiadau’r gwaith hwn yn ehangach.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Dangosyddion arfaethedig ar gyfer dulliau sy'n seiliedig ar asedau yng Nghymru (Saesneg yn unig)

PDF, 265KB

Llawrlwytho PDF - Dangosyddion arfaethedig ar gyfer dulliau sy'n seiliedig ar asedau yng Nghymru (Saesneg yn unig) (265 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig