Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru
Awduron: Tîm Dadansoddi
Cyhoeddwyd ar: 8fed Rhagfyr 2023
Cyhoeddiad nesaf: 1af a’r 15fed o bob mis
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Mae datganiad cyntaf Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i greu gan y Tîm dadansoddi yr Arsyllfa a Canser a Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, ar gael nawr. Nod y dangosfwrdd yw edrych ar y darlun mawr ar anghydraddoldebau iechyd ac iechyd poblogaeth yng Nghymru, ac olrhain sut mae’r rhain yn newid dros amser.
Cyflwyniad
Mae’r dangosfwrdd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar draws cyfres o bynciau. Ar hyn o bryd, gallwch archwilio data mewn perthynas â:
- Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol
- Cefnogi system iechyd a gofal cynaliadwy
- Marwolaethau
- Hyrwyddo ymddygiadau iach
- Hyrwyddo lles meddyliol a chymdeithasol
- Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach
Crëwyd y dangosfwrdd i ddarparu cyfres o ddangosyddion amserol lefel uchel, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu diweddaru naill ai bob pythefnos neu bob mis.
Prif bwyntiau
Er mwyn sicrhau bod y dangosfwrdd yn gyfredol, caiff data’r siart ei adnewyddu bob pythefnos neu bob mis, yn dibynnu ar ffynhonnell y data. Sylwch fod rhai dangosyddion yn cael eu diweddaru bob chwarter, neu hirach, ac nid yw rhai yn cael eu diweddaru mwyach, oherwydd argaeledd data. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr amserlen diweddaru ar gyfer dangosyddion penodol yn eu hadran metadata ar y dangosfwrdd.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddangosyddion pellach wedi’u cynllunio i’w cynnwys, fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y dangosfwrdd yn cyd-fynd ag anghenion defnyddwyr. Bydd ymgyrchoedd atgyfnerthu COVID-19 yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r ymgyrch bresennol.
Bydd unrhyw ddatblygiadau arfaethedig yn y dyfodol yn cael eu dogfennu yma.
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.