Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd

Manylion:

Awduron: Tîm dadansoddi

Cyhoeddwyd ar: 27ain Tachwedd 2025

Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Rhagymadrodd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar iechyd a lles plant oed ysgol uwchradd yng Nghymru.

Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi dealltwriaeth bellach o iechyd a lles plant ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio’n gadarnhaol ar bobl ifanc. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 73 o bynciau gwahanol ar gyfer pedair blynedd yr arolwg (2017, 2019, 2021 a 2023). Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â rhywedd, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol, ethnigrwydd, grŵp blwyddyn yn ôl awdurdod lleol a lefelau daearyddol gwahanol.

Daw’r dangosfwrdd gyda lawrlwythiad data llawn sy’n cynnwys nifer y myfyrwyr a ymatebodd i’r cwestiwn a chyfanswm y myfyrwyr a holwyd. Mae hefyd yn cynnwys lawrlwythiad ar gyfer cyfraddau gwahardd ac ymateb. Mae’r siartiau a grëwyd o fewn y dangosfwrdd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â thablau data sy’n cyd-fynd â nhw. Bydd y rhain yn disodli’r Adroddiad Cenedlaethol o 2023 ymlaen a gyhoeddwyd yn flaenorol gan DECIPHer.  Mae’r dangosfwrdd wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn cynnwys dangosyddion a dadansoddiadau ychwanegol yn y dyfodol. Gweler y ddogfen diweddariadau arfaethedig am ragor o wybodaeth.  Gweler yr adran amserlenni cyhoeddi arfaethedig isod am ragor o wybodaeth.


I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ewch i wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).  I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r dangosfwrdd, gweler y canllaw defnyddiwr.

Logo y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, sydd hefyd yn cael ei alw’n SHRN

Prif Bwyntiau

  • Mae canlyniadau merched yn waeth na bechgyn mewn llawer o bynciau
  • Mae cyfoeth teuluol isel yn aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth
  • Yn aml, gwelir canlyniadau gwael wrth i’r oedran fynd yn uwch, o 11 i 16 oed
  • Mae tueddiadau ar gyfer llawer o’r pynciau yn dangos ychydig iawn o welliant, os o gwbl, dros amser

Tablau data

Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r dangosfwrdd hwn.

Cysylltu data â chamau gweithredu

Mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd yn cyflwyno data i helpu i nodi materion allweddol a meysydd ffocws ar gyfer iechyd a lles disgyblion. Er bod y dangosfwrdd yn tynnu sylw at y problemau, gall yr isod helpu gyda’r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Drwy gysylltu’r dangosfwrdd â’r adnoddau hyn, gall defnyddwyr symud o ddeall y data i ddod o hyd i dystiolaeth ddibynadwy sy’n llywio gwelliant yn y byd go iawn.

Cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mewn Ysgolion

Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fêpio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru

Mapiau Tystiolaeth – Mae’r mapiau hyn yn rhoi mynediad strwythuredig at dystiolaeth gyfoes o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd a lles. Wedi’u datblygu gan dîm y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, maent yn dwyn ynghyd canllawiau dibynadwy ac adolygiadau systematig i gefnogi defnyddwyr i nodi camau gweithredu effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gweithio gyda Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles

Gall ysgolion sydd am fabwysiadu dull ysgol gyfan o wella iechyd a lles hefyd gysylltu â chynlluniau sy’n rhan o Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWSS). Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ymgorffori iechyd a lles yn eu polisïau, eu cwricwlwm a’u diwylliant. Mae’n cynnig arweiniad, cymorth ymarferol, a chyfleoedd i rannu arferion da. I gael gwybod rhagor neu i gysylltu â’ch cydlynydd lleol, ewch i’w gwefan neu cysylltwch yma [email protected].

Ymwadiad

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur(on) a fynegir yma ac nid o reidrwydd barn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) na Phrifysgol Caerdydd.

Arddangosiadau o’r weminar a’r dangosfwrdd

08/05/2025

Arddangosiad a Chipolwg: Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Trawsysgrif – 08/05/2025 Arddangosiad a Chipolwg: Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Noder bod y recordiadau hyn yn Saesneg, gellir darparu trawsgrifiadau Cymraeg ar gais

17/10/2024

Arddangosiad a Chipolwg: Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Trawsysgrif – 17/10/2024 Arddangosiad a Chipolwg: Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Noder bod y recordiadau hyn yn Saesneg, gellir darparu trawsgrifiadau Cymraeg ar gais

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig