Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer hepatitis firaol a gludir yn y gwaed 2010–2015

Manylion:

Awduron: Marion Lyons, Noel Craine a Josie Smith.

Cyhoeddwyd ar: 1af Chwefror 2010

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Crynodeb Gweithredol

Mae Hepatitis C (HCV) a hepatitis B (HBV) yn firysau sy’n lledaenu o berson i berson trwy gyswllt â gwaed sydd wedi’i heintio ac â hylifau eraill y corff. Mae firysau hepatitis yn effeithio ar yr afu/iau yn bennaf. Gall HCV a HBV achosi clefyd difrifol a marwolaeth, ond mae modd eu trin a’u hatal.

Amcangyfrifir bod rhwng 12,000 a 14,000 o bobl yng Nghymru â haint HCV cronig, ond nad yw’r mwyafrif ohonynt yn gwybod eu bod wedi’u heintio. Ar hyn o bryd, dim ond haint HBV acíwt sy’n cael ei gofnodi yng Nghymru a Lloegr, felly nid oes amcangyfrif ar gyfer heintiau HBV cronig yng Nghymru. Er hyn, mae haint HBV yn gymharol gyffredin ymhlith rhai grwpiau, yn enwedig grwpiau lleiafrifoedd ethnig o wledydd lle mae HBV yn fwy cyffredin (De-ddwyrain Asia, Affrica, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell, De a Dwyrain Ewrop). Mae nifer y bobl sydd wedi’u heintio â HBV a’r nifer sydd wedi’u heintio â HCV yn cynyddu bob blwyddyn, a hynny oherwydd ymddygiad risg uchel.

Cefndir

Mae’r adroddiad yn nodi cynllun gweithredu LlC ar gyfer hepatitis firaol a gludir yn y gwaed rhwng Ebrill 2010–Ebrill 2015. Mae’n cynnig i wasanaethau Cymru gael eu gwerthuso’n barhaus trwy gydol y cyfnod, ac i farcwyr llwyddiant (gostyngiad mewn cyfraddau trosglwyddo a chynnydd sylweddol yn niferoedd sy’n cael diagnosis a thriniaeth) a rhwystrau i gynnydd yn cael eu nodi. Bydd camau pellach i fynd i’r afael â HBV a HCV cronig yng Nghymru yn cael eu nodi i’w gweithredu o 2015 ymlaen.

Nod y cynllun gweithredu hwn yw darparu fframwaith sydd yn eglur, wedi’i gostio ac sydd wedi’i ddiffinio gan amser ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau allweddol yng Nghymru, a hynny er mwyn:

  • Lleihau trosglwyddiad hepatitis a gludir yn y gwaed yng Nghymru
  • Lleihau’r gronfa o haint heb ei ddiagnosio
  • Gwella’r ddarpariaeth o driniaeth a chymorth i unigolion sydd wedi’u heintio
  • Monitro a gwerthuso rhaglenni trin ac atal

Bydd yr ymateb i’r heriau hyn, a’r cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu, yn pontio cylchoedd gwaith gwahanol bartneriaid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer hepatitis firaol a gludir yn y gwaed 2010–2015 (Saesneg yn unig)

PDF, 403KB

Llawrlwytho PDF - Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer hepatitis firaol a gludir yn y gwaed 2010–2015 (Saesneg yn unig) (403 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig