Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb

Manylion:

Awduron: Arthur Duncan-Jones, Bethan Patterson, Rachel Burton, Rhian Hughes, Lloyd Evans, Nathan Lester

Cyhoeddwyd ar: 9fed Mehefin 2022

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae disgwyliad oes yn fesur o flynyddoedd disgwyliedig bywyd ar gyfartaledd ar gyfer baban newydd-anedig yn seiliedig ar gyfraddau marwolaeth a arsylwyd yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach yn cynrychioli nifer y blynyddoedd y disgwylir i berson fyw mewn iechyd da neu dda iawn. Amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol yw’r ddau fesur.

Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae’r dull wedi newid ers rhyddhau disgwyliadau iechyd blaenorol, i wella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Cyfrifwyd y bwlch yn flaenorol gan ddefnyddio Mynegai Goleddf Anghydraddoldeb (MGA). Mae ONS yn parhau i gyhoeddi’r MGA ar lefel genedlaethol fel rhan o’u datganiad DOI (Saesneg yn unig). Mae’n bwysig cofio y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sydd yn cynnwys gwahaniaethau mwy eithafol o ran lefelau amddifadedd yn anochel yn arwain at fylchau ehangach mewn disgwyliadau iechyd, o’u cymharu ag ardaloedd sydd yn fwy tebyg yn economaidd-gymdeithasol.

Cyflwyniad

Mae disgwyliad oes (LE), disgwyliad oes iach (HLE) a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig yn y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus (PHOF). Mae’r bwlch anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes iach yn ddangosydd cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a oedd yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Mynegai ‘Slope’ ar gyfer Anghydraddoldeb (SII).

Arferai Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHWO) ddefnyddio Arolwg Iechyd Cymru (WHS) i fesur disgwyliad oes iach a’i fwlch anghydraddoldeb, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach ers i Arolwg Iechyd Cymru ddod i ben yn 2015. Yn lle hynny, penderfynodd yr Arsyllfa ddefnyddio’r un arolwg â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sef yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS).

Oherwydd pryderon ynghylch dilysrwydd y SII ar lefelau lleol, penderfynodd yr Arsyllfa hefyd fesur y bwlch anghydraddoldeb ar gyfer disgwyliad oes a disgwyliad oes iach gan ddefnyddio’r gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed â’r amddifadedd lleiaf a’r pumed â’r amddifadedd mwyaf. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwahaniaethau rhwng y ddau ddull ac yn cymharu’r canlyniadau.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb

PDF, 429KB

Llawrlwytho PDF - Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb (429 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig