Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017: Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant
Cyhoeddwyd ar: 24ain Awst 2022
Mae’r rhifyn hwn o Gylchlythyr Iechyd Cymru yn disgrifio’r gwaith seiliedig-ar-dystiolaeth i ailbennu ffocws Cynllun Gwên er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r rhaglen genedlaethol hon ac er mwyn sicrhau cynnydd a gwelliant parhaus yn y dyfodol.
Mae’n disodli Cylchlythyr Iechyd Cymru (2008)008 a gyflwynodd Cynllun Gwên fel dau “gynllun peilot mawr”, a’r Llythyr Gweinidogol dilynol (EH/ML/032/09) a oedd yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol ac yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflawni ledled Cymru.
Mae Cynllun Gwên yn cael effaith wirioneddol ar iechyd deintyddol plant bach yng Nghymru ac rydym yn gweld lefelau gostyngol o bydredd dannedd. Mae Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arbenigwr yn Iechyd y Cyhoedd yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi cymorth i gyflawni’r rhaglen. Ceir tystiolaeth gynyddol y bydd plant sydd heb bydredd dannedd erbyn eu bod yn 5 oed yn profi llawer llai o bydredd dannedd trwy gydol eu hoes na phlant sydd â phydredd dannedd cyn eu bod yn 5 oed.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017 - Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant
PDF, 285KB
Llawrlwytho PDF - Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017 - Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant (285 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Iechyd y geg ymhlith plant 5 oed yng Nghymru 2024 i 2025
Dyma grynodeb o arolygiad Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol GIG Cymru o blant blwyddyn ysgol un (5 oed) a gynhaliwyd ledled Cymru yn 2024-25.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Iechyd y geg ymhlith disgyblion blwyddyn un 5 oed 2024 i 2025
Archwiliwyd 1219 o blant o 87 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Iechyd y geg ymhlith disgyblion blwyddyn un yn 2024 i 2025
Archwiliwyd 991 o blant o 91 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Iechyd y geg ymhlith disgyblion blwyddyn un yn 2024 i 2025
Archwiliwyd 1227 o blant o 95 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Iechyd y geg ymhlith disgyblion blwyddyn un yn 2024 i 2025
Archwiliwyd 422 o blant o 32 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Iechyd y geg ymhlith disgyblion blwyddyn un yn 2024 i 2025
Archwiliwyd 913 o blant o 84 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026