Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cyfradd beichiogi lefel ward ar gyfer pobl yn eu harddegau fesul bwrdd iechyd 2016

Manylion:

Awduron: Mari Jones, Rhys Powell

  • Bwrdd Iechyd
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Negeseuon allweddol

Mae dogfennau bwrdd iechyd wedi’u diweddaru wedi’u cynhyrchu yn amlinellu’r cyfraddau beichiogi ac erthyliadau ar lefel ward ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau rhwng 2011 i 2013. Yn ogystal â’r cyfraddau ar lefel ward, mae’r tueddiadau 10 mlynedd ar lefel bwrdd iechyd ac awdurdod lleol i’w gweld hefyd.

Mae cyfraddau beichiogi uwch ymhlith pobl yn eu harddegau yn gysylltiedig ag ardaloedd o amddifadedd uwch ac ardaloedd o ddiweithdra uwch. Mae cael babi cyn 16 oed yn gysylltiedig â diffyg addysg a hyfforddiant, a gall arwain at amodau economaidd-gymdeithasol gwael yn hwyrach mewn bywyd. Yn ogystal, o gymharu â mamau hŷn, mae mamau yn eu harddegau mewn mwy o berygl o gael problemau iechyd meddwl yn y tair blynedd ar ôl genedigaeth, o gael pwysau geni isel ac o gyfradd uwch o ran marwolaethau babanod.

Mae plant mamau yn eu harddegau yn tueddu i gael canlyniadau gwaeth fel oedolion ifanc. Maen nhw’n tueddu i gael cyrhaeddiad addysgol gwael, mwy o risg o anweithgarwch economaidd, a gallan nhw ddod yn rhieni yn eu harddegau eu hunain.

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig