Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2018–19

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 12fed Hydref 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu cronfa ddata Cymru gyfan i gefnogi’r broses o frechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â haint hepatitis B.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn ystod 2019, yn ôl yr hyn a hysbyswyd i Dîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae niferoedd ac amseroldeb y rhai sy’n cymryd y dos imiwneiddio hepatitis B ar 12 mis, a seroleg mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn 2018 yn cael ei gyflwyno hefyd.

Cefndir

Gall haint hepatitis B gael ei drosglwyddo o fam sydd wedi’i heintio i’w babi yn ystod genedigaeth. Mae’r babanod sy’n cael eu heintio yn y modd hwn yn debygol iawn o gael eu heintio’n gronig, ac yn gallu heintio eraill o ganlyniad. Gall brechu amserol leihau’r risg o haint ar enedigaeth o dros 90%.

O 1 Awst 2017 ymlaen, daeth pob babi yn gymwys i gael y brechlyn hecsavalent newydd (‘6 mewn 1’) sy’n cynnwys hepatitis B. Roedd hwn yn disodli’r brechlyn ‘5 mewn 1’ (DTaP/IPV/Hib, cyfuniad o diptheria, tetanws, pertwsis, polio wedi’i anactifadu, a brechlyn Haemophilus influenzae math B) a roddir i fabanod yn 2, 3 a 4 mis oed. Dylai’r babanod hyn gael dos o frechlyn Hepatitis B monovalent yn 0 mis oed ac yn 1 mis oed, y brechlyn ‘6 mewn 1’ fel y’i trefnwyd yn 2, 3 a 4 mis oed, a’r brechlyn monovalent yn 12 mis oed. Mae hyn yn gyfanswm o chwe dos o frechlynnau sy’n cynnwys Hepatitis B. Er mwyn monitro a yw’r babanod sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn rhag Hepatitis B, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar faint o fabanod sy’n cael brechlyn sy’n cynnwys hepatitis B yn 0, 1, 2 a 12 mis oed, ac amseroldeb y brechiadau hynny.

Mae’r data yn yr adroddiad hwn wedi’i gymryd o gronfa ddata Imiwneiddiad Hepatitis B Babanod Newyddenedigol Cymru Gyfan. Datblygwyd y gronfa ddata i gynorthwyo Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac i ddilyn cyfraddau imiwneiddio hepatitis B mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif. Mae’r gronfa ddata hefyd yn caniatáu i Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro brechiadau hepatitis B mewn babanod newyddenedigol a phlant ifanc a anwyd i famau heintiedig. Casglwyd data’r adroddiad hwn ar 12 Hydref 2020.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2018–19 (Saesneg yn unig)

PDF, 758KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2018–19 (Saesneg yn unig) (758 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig