Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2012–13

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2014

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu cronfa ddata Cymru gyfan i gefnogi’r broses o frechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â haint hepatitis B.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn ystod 2013, yn ôl yr hyn a hysbyswyd i Dîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae niferoedd ac amseroldeb y rhai sy’n cymryd y dos imiwneiddio hepatitis B ar 12 mis, a seroleg mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn 2012 yn cael ei gyflwyno hefyd.

Cefndir

Mae’r data yn yr adroddiad hwn wedi’i gymryd o gronfa ddata Imiwneiddiad Hepatitis B Babanod Newyddenedigol Cymru Gyfan. Datblygwyd y gronfa ddata gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynorthwyo Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac i ddilyn cyfraddau imiwneiddio hepatitis B mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif. Mae’r gronfa ddata hefyd yn caniatáu i Ganolfan Arsylwi ar Glefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro brechiadau hepatitis B mewn babanod newyddenedigol a phlant ifanc a anwyd i famau heintiedig. Casglwyd data’r adroddiad hwn ar 1 Mai 2014.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2012–13 (Saesneg yn unig)

PDF, 578KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2012–13 (Saesneg yn unig) (578 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig