Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2022/23
Awduron: Rhaglen Clefydau y gellir eu hatal drwy Frechu, Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC)
Cyhoeddwyd ar: 31ain Mawrth 2023
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cefndir
Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol dethol. Mae PPV yn amddiffyn rhag 23 seroteip o Streptococcus pneumoniae a all achosi niwmonia neu heintiau ymledol difrifol.
Caiff data eu cyflwyno gan Awdurdod Lleol/Bwrdd Iechyd y Meddyg Teulu, ac maent yn seiliedig ar yr holl bractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae pob oedran a nodir yr adroddiad hwn fel yr oeddent ym mis Mawrth 2023.
Cafodd data o un practis ei eithrio o’r adroddiad hwn oherwydd ansawdd y data.
Pwyntiau allweddol
- Roedd cyfradd y bobl rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol a gymerodd frechlyn niwmococol yn 36.4% yn ystod 2022/23. Roedd y defnydd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 29.7% ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i 45.3% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
- Roedd cyfradd y bobl rhwng 65 oed a hŷn a gymerodd frechlyn niwmococol yn 62.4%. Roedd y gyfradd yn amrywio o 59.2% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i 67.3% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
- I’r rhai 65 oed a hŷn, roedd y gyfradd yn cynyddu gydag oedran (ac amser ers dod yn gymwys i gael brechiad). Roedd cyfradd y rhai a oedd yn troi’n 65 oed yn 26.5%, tra bo cyfradd y rhai 75 neu hŷn yn 75%.
- Roedd y gyfradd ymhlith cleifion rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol ar ei uchaf mewn cleifion â mewnblaniad cochlear (72.2%), yna cleifion â chlefyd anadlol cronig (48.7%). Roedd y gyfradd ar ei hisaf ymhlith cleifion â gollyngiad hylif serebrosbinol (28.5%).
- Mae amrywiadau nodedig rhwng byrddau iechyd ac o fewn byrddau iechyd yn y nifer sy’n cymryd y brechiad, yn enwedig yn y rhai o dan 65 oed mewn grwpiau risg clinigol
Lawrlwythiadau adroddiadau
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2022-23 (Saesneg yn unig)
PDF, 532KB
Llawrlwytho PDF - Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2022-23 (Saesneg yn unig) (532 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2023/24
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau […]
Cyhoeddwyd:
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2019/20
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau […]
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2020
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2020/21
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg […]
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2021