Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2020/21

Manylion:

Awduron: Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu, Canolfan Gwyliadwriaeth Clefydau Trosglwyddadwy

Cyhoeddwyd ar: 31ain Mawrth 2021

Cefndir

Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol dethol. Mae PPV yn amddiffyn rhag 21 seroteip o Streptococcus pneumoniae a all achosi niwmonia neu heintiau ymledol difrifol.

Caiff data eu cyflwyno gan Awdurdod Lleol/Bwrdd Iechyd y Meddyg Teulu, ac maent yn seiliedig ar yr holl bractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae pob oedran a nodir yr adroddiad hwn fel yr oeddent ym mis Mawrth 2021.

Pwyntiau allweddol

  • Roedd cyfradd y bobl rhwng dau a 64 oed mewn grŵp risg clinigol a gymerodd frechlyn niwmococol yn 34.7% yn ystod 2020/21. Roedd y defnydd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 43.2% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i 26.0% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Roedd cyfradd y bobl rhwng 65 oed a hŷn a gymerodd frechlyn niwmococol yn 61.4%. Roedd y gyfradd yn amrywio o 64.9% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i 58.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae’r gyfradd derbyn yn cynyddu’n raddol o 26.5% yn 65 oed i 65.7% yn 74 oed. Roedd y gyfradd derbyn yn 74.0% ymhlith y rhai 75 oed a throsodd.
  • Ymhlith cleifion rhwng dwy a 64 oed mewn grŵp risg clinigol, roedd y gyfradd derbyn ar ei uchaf mewn cleifion â mewnblaniad cochlear (73.9%), a chleifion â chlefyd anadlol cronig (45.7%). Roedd y gyfradd ar ei hisaf ymhlith cleifion â gollyngiad hylif serebrosbinol (25.3%).
  • Mae amrywiadau nodedig rhwng byrddau iechyd ac o fewn byrddau iechyd yn y nifer sy’n cymryd y brechiad, yn enwedig yn y rhai o dan 65 oed mewn grwpiau risg clinigol

Lawrlwythiadau adroddiadau

Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2020/21 (Saesneg yn unig)

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2020/21 (Saesneg yn unig) (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig