Calendr cryno sganio gorwelion rhyngwladol a dysgu Ebrill 2022 – Mawrth 2023
Awduron: Mariana Dyakova, Emily Clark, Andrew Cotter-Roberts, Abigail Malcolm (née Instone), Golibe Ezenwugo, Leah Silva, Anna Stielke, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), James Allen, Aimee Challenger, Claire Beynon, Mark Bellis, Mischa Van Eimeren, Angie Kirby, Benjamin Bainham
Cyhoeddwyd ar: 9fed Mai 2023
- Rhyngwladol
Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu hwn yw’r rydydd yn y gyfres, yn dilyn y Calendrau Cryno o 2020/21 a 2021/22. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, cyfosod a chyflwyno crynodeb clir a chryno o’r pum Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023. Yn ogystal, mae’r ddau adroddiad cryno (a gyhoeddwyd yn 2022) wedi’u cynnwys. Mae’r llif gwaith Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pynciau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg, sydd wedi ceisio gwella a llywio gweithredoedd a dulliau o’r fath yng Nghymru.
Nod y crynodeb yw llywio trosolwg cryno o weithredu polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, mwy cyfartal, cydnerth, llewyrchus a chyfrifol yn fyd eang, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalennau synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol.
Mae’r themâu’n cynnwys:
- Gofal canolraddol
- Yr argyfwng costau byw
- Diogelu’r amgylchedd addysgol rhag COVID: 4-18 oed
- Addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar
- Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau
- Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
- Effaith COVID-19 ar ehangu’r bwlch iechyd a bregusrwydd
Lawrlwythiadau adroddiadau
Calendr cryno sganio gorwelion rhyngwladol a dysgu Ebrill 2022 - Mawrth 2023
PDF, 8MB
Llawrlwytho PDF - Calendr cryno sganio gorwelion rhyngwladol a dysgu Ebrill 2022 - Mawrth 2023 (8 MB)
Llawrlwytho PDF