Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Amddifadedd ac iechyd: Adroddiad gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi Gwybodaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru

  • Awdurdod lleol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Diben yr adroddiad hwn yw tynnu sylw at y berthynas rhwng amddifadedd mewn ardaloedd bychain ac iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio nifer fawr o ddangosyddion iechyd.

Gwneir hyn i gynorthwyo amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion yng Nghymru i gymryd camau i wella iechyd y rhai mwyaf difreintiedig. Mae lleihau anghydraddoldeb ac anfantais yn bolisi sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y pwysleisir yn Cymru: Gwlad Well – Agenda Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio ystod eang o ddangosyddion iechyd i ddangos effaith sylweddol amddifadedd ar iechyd, sydd i’w weld yn amlwg yng nghymhareb iechyd yr adrannau etholiadol yn yr 20% mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r 20% y cant mwyaf cyfoethog. Nid yw’r berthynas hon yr un peth ar gyfer pob clefyd neu gyflwr. Dylai’r adroddiad fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i bawb sy’n gobeithio mynd i’r afael â phrif benderfynyddion a chanlyniadau anghydraddoldebau mewn iechyd. Mae’r adroddiad yn cynnwys data ar ddosbarthiad budd daliadau, penderfynyddion iechyd ymddygiadol a chorfforol, mesurau statws iechyd, salwch ac anafiadau, defnydd o wasanaethau iechyd, a marwolaethau.

Mae’r adroddiad ar gael fel ffeil PDF ar lefel awdurdod cenedlaethol a lefel lleol, a gallwch ei lawrlwytho isod.

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig