Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2020-21

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2020 i ddiwedd Mawrth 2021. Adroddir ar y canlyniadau fesul Bwrdd Iechyd lle y cafodd y gwasanaeth sgrinio ei ddarparu. Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais.

Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu cymryd gwaed o sawdl y babi, bum niwrnod ar ôl iddo gael ei eni (gan gyfrif y diwrnod geni fel diwrnod 0). Mae’r sampl gwaed hwn yn cael ei sgrinio am glefydau prin ond difrifol sy’n ymateb i ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau marwolaethau a/neu afiachedd. Mae’r prawf sgrinio hwn yn rhan arferol o ofal ôl-enedigol.

Nod rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig yng Nghymru yw cynnig prawf sgrinio i bob babi cymwys, pan fydd yn bum niwrnod oed, ar gyfer clefydau prin ond difrifol a fyddai’n elwa o ymyrraeth gynnar a lleihau marwolaethau a/neu afiachedd yn sgil y clefyd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2020-21

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2020-21 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig