Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2018-19
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2018 i ddiwedd Mawrth 2019. Adroddir ar y canlyniadau fesul Bwrdd Iechyd lle y cafodd y gwasanaeth sgrinio ei ddarparu. Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais.
Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu cymryd gwaed o sawdl y babi, bum niwrnod ar ôl iddo gael ei eni (gan gyfrif y diwrnod geni fel diwrnod 0). Mae’r sampl gwaed hwn yn cael ei sgrinio am glefydau prin ond difrifol sy’n ymateb i ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau marwolaethau a/neu afiachedd. Mae’r prawf sgrinio hwn yn rhan arferol o ofal ôl-enedigol.
Nod rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig yng Nghymru yw cynnig prawf sgrinio i bob babi cymwys, pan fydd yn bum niwrnod oed, ar gyfer clefydau prin ond difrifol a fyddai’n elwa o ymyrraeth gynnar a lleihau marwolaethau a/neu afiachedd yn sgil y clefyd.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2018-19
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2018-19 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2022-23
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan y Rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2022 hyd at ddiwedd Mawrth 2023. […]
Cyhoeddwyd: 21ain Gorffennaf 2025
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2021-22
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2021 i ddiwedd Mawrth 2022. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2020-21
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2020 i ddiwedd Mawrth 2021. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2019-20
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2019 i ddiwedd Mawrth 2020. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2017-18
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2017 i ddiwedd Mawrth 2018. […]
Cyhoeddwyd:
-
Polisïau a safonau sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig
Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio, paratoi a chyflawni rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnig sgrinio smotyn gwaed i bob babi newydd-anedig sy’n […]
Cyhoeddwyd: