Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2017 i 2018

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 9fed Ionawr 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan Sgrinio Serfigol Cymru ar gyfer y flwyddyn o fis Ebrill 2017 tan ddiwedd mis Mawrth 2018.

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru. Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau nifer yr achosion o ganser ceg y groth ymledol a’r morbidrwydd a’r marwolaethau a welir o ganlyniad iddynt.

Mae hyn yn parhau’r gyfres o adroddiadau ystadegol blynyddol ar gyfer y rhaglen, a dyma’r pedwerydd adroddiad yn y fformat newydd. Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r adroddiad sy’n adlewyrchu’r newidiadau polisi ynghylch yr oedran pan fydd menyw yn cael ei gwahodd am sgrinio serfigol am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd yn cael ei gwahodd am sgrinio. Yn ogystal bu newidiadau i’r geiriad a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau prawf sgrinio serfigol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2017 i 2018

Word doc, 8MB

Llawrlwytho Word doc - Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2017 i 2018 (8 MB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig