Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2022-23

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 14eg Tachwedd 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Croeso i’r pumed adroddiad ystadegol blynyddol a gyhoeddir gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW), Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y gwasanaeth yw canfod retinopathi diabetig cyn colli golwg.

Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod nodi a thriniaeth gynnar yn gallu atal colli golwg mewn 70 – 90% o bobl â retinopathi diabetig sy’n bygwth golwg.

Cafodd DESW (Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig Cymru yn flaenorol) ei gomisiynu’n wreiddiol fel gwasanaeth cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Daeth DESW yn weithredol ym mis Mehefin 2003 ac erbyn 2004 roedd yn darparu gwasanaeth i gyfranogwyr ym mhob ardal Bwrdd Iechyd. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro tan fis Ebrill 2016 pan drosglwyddodd i ymuno â’r Rhaglenni Sgrinio seiliedig ar boblogaeth eraill a ddarperir gan yr Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2022-23

PDF, 632KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2022-23 (632 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig