Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2019-20

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 15fed Tachwedd 2021

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Croeso i’r trydydd adroddiad ystadegol blynyddol i’w gyhoeddi gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW); Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd DESW (Gwasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig Cymru yn flaenorol) ei gomisiynu’n wreiddiol fel gwasanaeth cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Daeth DESW yn weithredol ym mis Mehefin 2003 ac erbyn 2004 roedd yn darparu gwasanaeth i gyfranogwyr ym mhob ardal Bwrdd Iechyd. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro tan fis Ebrill 2016 pan drosglwyddodd i ymuno â’r Rhaglenni Sgrinio seiliedig ar boblogaeth eraill a ddarperir gan yr Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nod y gwasanaeth yw canfod retinopathi diabetig cyn colli golwg. Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod nodi a thriniaeth gynnar yn gallu atal colli golwg mewn 70 – 90% o bobl â retinopathi diabetig sy’n bygwth golwg.

Mae’r rhai sy’n 12 a hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes, sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, yn gymwys ac yn cael eu gwahodd am brofion sgrinio’r retina rheolaidd gyda DESW.

Ym mis Mawrth 2020, gwnaed y penderfyniad anodd i oedi rhai o’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys DESW, mewn ymateb i bandemig COVID-19. Effeithiodd y penderfyniad i oedi ar glinigau a drefnwyd ar gyfer ar ôl 17 Mawrth. Er mai dim ond ar gyfran fach iawn o’r flwyddyn 2019-20 yr effeithiodd hyn, rydym hefyd yn ymwybodol bod y pandemig a ddaeth i’r amlwg rhwng mis Ionawr a mis Mawrth wedi effeithio ar ymddygiad rhai o’r rhai a wahoddwyd i gael eu sgrinio gyda rhai yn dewis gohirio neu ganslo eu hapwyntiad.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2019-20

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2019-20 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig