Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2023 i 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma’r unfed adroddiad ystadegol blynyddol ar ddeg a gyhoeddwyd gan Sgrinio Coluddion Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

Negeseuon allweddol

  • Mae sgrinio’r coluddyn yn lleihau’r risg o farw o ganser y coluddyn.
  • Yn ystod rhan gynharach y cyfnod adrodd hwn (Ebrill – Medi 2023), gwahoddwyd dynion a menywod 55 i 74 oed i gymryd rhan bob dwy flynedd. Estynnwyd yr ystod oedran i 51 i 74 oed o fis Hydref 2023 ymlaen, gan fabwysiadu dull graddol fel mai dim ond tua hanner y rhai a oedd newydd ddod yn gymwys a wahoddwyd i gael eu sgrinio yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
  • Cynyddwyd sensitifrwydd y prawf sgrinio gyda newid yn y trothwy positif o 150µg/g i 120µg/g o fis Hydref 2023.
  • Gall pobl deimlo’n dda hyd yn oed os oes ganddyn nhw ganser y coluddyn. Mae canfod canser yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i unigolyn oroesi.
  • Mae sgrinio’r coluddion yn defnyddio prawf GIG am ddim y gellir ei gwblhau’n hawdd gartref.
  • Ni fydd sgrinio yn darganfod pob canser, ac ni ellir gwella rhai canserau.
  • Dewis yr unigolyn yw cymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn. Rydym yn annog pobl sy’n cael eu gwahodd i gael eu sgrinio i ddarllen y pecyn gwybodaeth yn ofalus i’w helpu i wneud eu penderfyniad.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2023 i 2024

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2023 i 2024 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig