Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad ystadegol blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2022-23

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 4ydd Tachwedd 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma’r degfed adroddiad ystadegol blynyddol a gyhoeddir gan Sgrinio Coluddion Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.

Cafodd Sgrinio Coluddion Cymru ei lansio ym mis Hydref 2008 gyda’r nod o leihau nifer y bobl sy’n marw o ganser y coluddyn yn y grŵp o bobl a wahoddir i gael eu sgrinio yng Nghymru. Mae’r rhaglen sgrinio coluddion yn nodi canserau’r coluddyn yn gynnar pan fo triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus a hefyd yn dileu tyfiannau cyn-ganseraidd a allai ddatblygu’n ganser dros gyfnod o amser. Yn y flwyddyn 2022-23 rhoddodd Sgrinio Coluddion Cymru ddiagnosis o ganser y coluddyn i 376 o bobl a thynnwyd polypau o 2,733 o gyfranogwyr sgrinio.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2022-23

PDF, 808KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2022-23 (808 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig