Adroddiad UGY: Archwilio ffactorau sydd yn dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn ymarfer iechyd y cyhoedd ar draws Cymru
Awduron: Nicky Knowles, Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ashley Gould, Cyfarwyddwr Rhaglen, Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae ymddygiad yn chwarae rôl allweddol yn gwella iechyd a lles.
Mae nodi a deall ymddygiad a ffactorau sydd yn dylanwadu arnynt, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r ffactorau hyn yn rhan annatod o gyflawni uchelgeisiau polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth gynyddol bod ymyriadau iechyd y cyhoedd sydd yn cael eu llywio gan ddefnyddio modelau a fframweithiau gwyddor ymddygiad yn fwy effeithiol nag ymyriadau heb sail ddamcaniaethol. Er mwyn galluogi mabwysiadu gwyddor ymddygiad ar raddfa eang, mae angen
deall galluoedd ac amgylcheddau/systemau gweithredu presennol yn well, a nodi’r ffordd orau o wella a chynyddu’r defnydd o ddulliau o’r fath ar draws gweithlu iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Archwiliodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor, ffactorau allanol sydd yn dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad ar draws Cymru. Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o’r dulliau, y canfyddiadau allweddoi a’r argymhellion.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad-capasiti-a-pharodrwydd
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad-capasiti-a-pharodrwydd (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Llesiant yn ystod y gaeaf: camau gweithredu ac effeithiau a rennir
Nod yr adroddiad sy’n dwyn y teitl, Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Gweithredu ac Effaith a Rennir, yw ategu fframweithiau cynllunio presennol y GIG a Llywodraeth Cymru ar gyfer […]
Cyhoeddwyd: 28ain Hydref 2025
-
Adroddiad sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Ymgyrchoedd cyfathrebu er derbyn brechlynnau
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn […]
Cyhoeddwyd: 13eg Mawrth 2023
-
Adroddiad UGY: Gwyddor ymddygiad ar waith
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer staff, timau a gwasanaethau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn nodi’r amrywiaeth o waith, ar draws […]
Cyhoeddwyd: 6ed Mai 2025
-
Adroddiad UGY: Menter Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (BICI)
Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad ym mis Mehefin 2024, gyda dros 35 o randdeiliaid o ystod o dimau gwahanol yn dod â darn o gyfathrebu i’w optimeiddio […]
Cyhoeddwyd: 15fed Ebrill 2025
-
Adroddiad UGY: Dylanwad Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws y system iechyd cyhoeddus – gwerthusiad mapio realaidd o’r crycheffeithiau
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu sy’n cynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu, a’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad mewn polisi ac mewn ymarfer. Fel dull […]
Cyhoeddwyd: 11eg Mawrth 2025