Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad dysgu o adolygiadau 2019

Manylion:

Awduron: Tîm Diogelu Cenedlaethol

Cyhoeddwyd ar: 17eg Gorffennaf 2025

  • Blynyddol

Bydd gweithwyr proffesiynol penodedig y Tîm Diogelu Cenedlaethol yn cyfrannu’n rheolaidd i Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion.

Diben cyffredinol y system adolygu yw hybu diwylliant cadarnhaol o ddysgu amlasiantaeth sy’n cynnwys hybu arfer gorau. Mae rheidrwydd ar yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â gofalu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg, ac sy’n ymwneud â’u cynorthwyo a’u hamddiffyn, i sicrhau bod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyrraedd a’u cynnal bob amser yng nghyswllt y gwaith hwnnw. Rhan o’r rheidrwydd yw’r angen i ddysgu o gamgymeriadau, yn enwedig y rheiny sy’n golygu bod plentyn neu oedolyn oedd yn wynebu risg wedi marw neu wedi’i anafu yn ddifrifol.

Caiff Adolygiadau Ymarfer Diogelu yng Nghymru eu cynnal ar ran Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac maent yn fodd i asiantaethau partner nodi’r gwersi y gellir eu dysgu o achosion arbennig o gymhleth neu anodd, a rhoi newidiadau ar waith er mwyn gwella gwasanaethau yn sgil y gwersi hynny.

Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol wedi llunio adroddiad i amlygu themâu allweddol o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig yng Nghymru a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019. Nod y gwaith yw llywio arfer gorau ac annog pobl i fyfyrio ynghylch y gwersi a’r themâu a nodwyd mewn ardaloedd lleol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Dysgu o Adolygiadau 2019 - Dadansoddiad o’r Themâu sy’n Dod i’r Amlwg o Ymarfer Plant, Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig yng Nghymru

PDF, 355KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Dysgu o Adolygiadau 2019 - Dadansoddiad o’r Themâu sy’n Dod i’r Amlwg o Ymarfer Plant, Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig yng Nghymru (355 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig