Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad cryno lleiafrifoedd ethnig 2023

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 3ydd Awst 2023

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r canfyddiadau ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol ledled Cymru, gan nodi pa wahaniaethau a nodweddion sydd o’u cymharu â’r canlyniadau cyffredinol.

Ar gyfer canlyniadau meintiol, mae’r gwahaniaethau yn arwyddocaol ar lefel hyder 5%, sy’n golygu posibilrwydd o 95% fod y gwahaniaeth wedi digwydd ar hap; mae hwn lefel hyder derbyniol a ddefnyddir yn aml. Mae pob gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol oni nodir fel arall.

Mae adroddiad ar wahân yn dangos canlyniadau ar draws grwpiau. Teitl yr adroddiad cyffredinol yw: ‘Evaluation of information resources’ (a gynhyrchwyd gan BMG Research ar ran ICC). Roedd 35 o bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn rhan o’r arolwg ansoddol. O’r 35 o bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, dywedodd 10 nad Cymraeg na Saesneg yr oedden nhw’n ei siarad adref, a dywedodd 25 mai Saesneg oedd eu prif iaith.

Hefyd, fe wnaeth naw unigolyn o gefndir ethnig leiafrifol ac sy’n siarad Saesneg fel eu prif iaith gymryd rhan o grŵp ffocws ansoddol. Fe wnaeth dau unigolyn o gefndir ethnig leiafrifol sy’n siarad prif iaith wahanol i’r Gymraeg neu’r Saesneg gymryd rhan mewn cyfweliadau manwl ansoddol. Cynhaliwyd yr arolwg, y grŵp ffocws a’r cyfweliadau manwl i gyd yn Saesneg. O ystyried y meintiau sylfaen cymharol isel ar gyfer y grŵp hwn, dylid dehongli’r canfyddiadau yn ofalus. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Gwerthusiad o adnoddau gwybodaeth: Adroddiad cryno lleiafrifoedd ethnig 2023 (Saesneg yn unig)

PDF, 203KB

Llawrlwytho PDF - Gwerthusiad o adnoddau gwybodaeth: Adroddiad cryno lleiafrifoedd ethnig 2023 (Saesneg yn unig) (203 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig