Adroddiad blynyddol ynghylch lefelau ucehl o blwm 2023
Cyhoeddwyd ar: 6ed Mawrth 2025
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r mesurau i gadw golwg ar achosion o lefelau uchel o blwm yn y gwaed ymhlith plant (rhwng 0 ac 17 oed) ac oedolion dros 65 oed yng Nghymru rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023, o gymharu â’r blynyddoedd 2017 i 2022 (ac eithrio 2020). Lluniwyd yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cefnogi clinigwyr i reoli’r achosion hyn, ac mae’n amlinellu data achosion 2023 ac yn rhoi diweddariad ar y gweithgarwch o ran cadw golwg ar achosion. Yn olaf, mae’n gwneud argymhellion ar gyfer y camau nesaf.
Canlyniadau
Cafodd mwy o blant eu profi yn 2023 o gymharu â blynyddoedd blaenorol, ac o ganlyniad nodwyd mwy o achosion o lefelau uchel o blwm yn y gwaed. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r profion ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a’r nifer lleiaf ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Roedd cyfraddau’r profion positif ar eu huchaf yng Nghwm Taf Morgannwg, a’r cyfraddau isaf yng Nghaerdydd a’r Fro. Bechgyn oedd testun mwyafrif y profion (n = 389, 69%), ac roedd y nifer mwyaf o achosion yn y grŵp oedran dwy i dair oed (n = 8, 38%). Plant o gwintel MALlC un oedd testun y rhan fwyaf o’r profion (n = 202, 35.7%) a’r achosion (n = 9, 42.8%); y mwyaf
difreintiedig. Roedd y broses o brofi oedolion dros 65 oed yn 2023 yn unol â’r blynyddoedd blaenorol. Yn wahanol i blant, cynhaliwyd mwy o brofion ar gyfer unigolion o MALlC pump (lleiaf difreintiedig) na MALlC un (mwyaf difreintiedig).
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad blynyddol ynghylch lefelau ucehl o blwm 2023
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad blynyddol ynghylch lefelau ucehl o blwm 2023 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad blynyddol gwyliadwriaeth amlygiad plwm mewn plant ac oedolion 2024
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o’r gwaith gwyliadwriaeth o achosion o lefelau uwch o blwm yn y gwaed ymhlith plant (0 i 17 oed) ac oedolion dros 65 oed […]
Cyhoeddwyd: 3ydd Chwefror 2026
-
Dadansoddiad ôl-weithredol o hysbysiadau ynglŷn â lefelau uwch o blwm yn y gwaed i’r Tîm Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru 2021 i 2024
Yn dilyn gwahardd plwm mewn paent a phetrol, mae plwm yn parhau yn ein hamgylchedd ac yn parhau i niweidio iechyd, hyd yn oed pan fydd unigolion yn dod i […]
Cyhoeddwyd: 3ydd Chwefror 2026