Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant 2023 i 2024

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 21ain Mai 2025

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data a gasglwyd ledled Cymru yn ystod blwyddyn ysgol 2023–2024 at ddibenion gwyliadwriaeth.

Pwyntiau Allweddol

Cafodd pob plentyn 4–5 oed sydd yn y dosbarth derbyn yng Nghymru gynnig profion arferol gan dimau nyrsio ysgolion i fesur eu taldra a’u pwysau. Mae’r data hyn yn cael eu hadrodd yn genedlaethol i hwyluso gwyliadwriaeth.

  • Ar gyfer Cymru yn gyffredinol, fe ddychwelwyd at y lefelau cyfranogiad a welwyd cyn y pandemig. Cafodd 93.4% o blant eu pwyso a’u mesur eleni.
  • Yng Nghymru gyfan, roedd cyfran y plant â phwysau iach yn 73.5%, sydd ychydig yn is o’i gymharu â’r llynedd (74.3%) ond yn ystadegol yn sylweddol uwch na’r lefel a fesurwyd cyn y pandemig (72.4%).
  • Yng Nghymru gyfan, cyfran y plant dros bwysau oedd 13.7, a chyfradd y plant â gordewdra oedd 11.8%.
  • Roedd cyfran y plant â gordewdra yng Nghymru yn uwch na’r hyn a adroddwyd yn Lloegr ac yn yr Alban.
  • Roedd plant sy’n byw yn y ‘pumed amddifadedd’ mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew o’i gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig, y pumed amddifadedd agosaf i’r lleiaf difreintiedig, y pumed amddifadedd canol a’r pumed amddifadedd agosaf at y mwyaf difreintiedig.
  • Roedd bechgyn yn ystadegol sylweddol fwy tebygol o fod dan bwysau o’i gymharu â merched, gyda chyfran y bechgyn dan bwysau yn 1.3% o’i gymharu â 0.6% o ferched.
  • Roedd canlyniadau eleni yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng ardaloedd gwledig a threfol.
  • Cyfran y plant mewn ardaloedd gwledig a oedd dros bwysau neu â gordewdra oedd 26.8%, o’i gymharu â 25.0% mewn ardaloedd trefol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Blynyddol Rhaglen Mesur Plant 2023–2024 (Saesneg yn unig)

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Blynyddol Rhaglen Mesur Plant 2023–2024 (Saesneg yn unig) (3 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig