Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant 2022–2023

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 21ain Mai 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau allweddol y Rhaglen Mesur Plant ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022–2023.

Pwyntiau allweddol

  • Cafodd pob plentyn 4–5 oed sydd yn y dosbarth derbyn yng Nghymru gynnig profion arferol gan dimau nyrsio ysgolion i fesur eu taldra a’u pwysau. Mae’r data hyn yn cael eu hadrodd yn genedlaethol i hwyluso gwyliadwriaeth.
  • Ar lefel Cymru gyfan, roedd cyfran y plant â phwysau iach yn 74.3%, ystadegyn sylweddol uwch na’r gyfran cyn y pandemig.
  • Ar lefel Cymru gyfan, roedd cyfran y plant sydd dros bwysau yn 13.4% a’r plant â gordewdra yn 11.4%, y ddau yn ystadegol yn sylweddol is na chyn y pandemig.
  • Roedd cyfran y plant â gordewdra yng Nghymru yn uwch na’r hyn a adroddwyd yn Lloegr ac yn yr Alban.
  • Mae plant sy’n byw yn y ‘pumed amddifadedd’ lleiaf difreintiedig yn ôl cod post eu cartref yn ystadegol sylweddol llai tebygol o fod yn ordew o’i gymharu â phob pumed amddifadedd arall.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad blynyddol y rhaglen mesur plant 2022–2023 (Saesneg yn unig)

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad blynyddol y rhaglen mesur plant 2022–2023 (Saesneg yn unig) (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig