Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015
Awduron: Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Beverley Heatman, Rheolwr Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant
Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2015
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Dyma drydydd adroddiad blynyddol rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Cymru. Mae’n adrodd ar dueddiadau mewn marwolaethau plant hyd at 2013 a gweithgareddau’r rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn ystod 2014-15. Mae marwolaeth plentyn yn llorio teuluoedd a chymunedau, ac yn effeithio ar y gymdeithas ehangach. Drwy adolygu’r marwolaethau hyn yn systematig gobeithiwn gael mwy o ddealltwriaeth ynghylch pam mae plant yn marw a’r hyn y gellir ei wneud i atal y trasiedïau hyn yn y dyfodol.
Mae dull systematig o werthuso marwolaethau plant wedi ei sefydlu mewn nifer o wledydd erbyn hyn, yn cynnwys Seland Newydd, Awstralia, Canada, yr Unol Daleithau a Lloegr. Mae system genedlaethol adolygu marwolaethau plant wrthi’n cael ei datblygu yn yr Alban ar hyn o bryd. Sefydlwyd y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yng Nghymru yn 2012 yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus (2009-2011) a daeth yn rhan o weithgarwch craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014. Sefydlwyd dull thematig cenedlaethol o ymdrin ag adolygu marwolaethau plant. Mae hyn yn dibynnu ar bartneriaethau â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau ledled Cymru ac mae’n adeiladu ar yr ymateb amlasiantaeth integredig i farwolaethau annisgwyl drwy’r Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC).
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad blynyddol Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Gorffennaf 2015 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adolygiad thematig – marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017 – Prif Adolygiad
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn ymroddedig i ail-adrodd adolygiad o farwolaethau plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy hunanladdiad yn dilyn ei adolygiad cyntaf yn 2014.
Cyhoeddwyd: 2il Ionawr 2017
-
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad addiad tebygol 2013 i 2017
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017, crynodeb.
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013 i 2022
Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol yn y maes diogelwch dŵr yng Nghymru er mwyn atal marwolaethau cysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc […]
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Adolygiad cyflym – marwolaethau plant oherwydd brathu/ ymosod gan gŵn
Mae cŵn yn gydymaith gwerthfawr i lawer o deuluoedd. Mae eu cymdeithasoli’n gynnar â phlant ac eraill yn bwysig ar gyfer cŵn teulu. Er mai prin yw’r achosion o farwolaethau […]
Cyhoeddwyd: 1af Medi 2014
-
Ymateb cyflym i farwolaethau plant o lid yr ymennydd a chlefyd meningococol yng Nghymru
Mae’n ceisio disgrifio niferoedd yr achosion sy’n hysbys i’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ac adnabod canllawiau/ argymhellion allweddol sy’n bodoli ar gyfer y Deyrnas Unedig a allai gyfrannu at leihau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Hydref 2014
-
Adolygiad thematig o farwolaethau pobl ifanc yn eu harddegau mewn cerbydau modur 2013
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn cael ei hailsefydlu yng Nghymru. Nod y rhaglen yw nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant, gan gynnwys unrhyw dueddiadau, ac argymell camau […]
Cyhoeddwyd: