Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adolygu tystiolaeth o amgylchedd obesogenaidd

Manylion:

Awduron: Eleri Tyler, Sian Price, Sian King

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2019

  • Rhyngwladol

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei wneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra. Cynigiwyd y dylid defnyddio Fframwaith ANGELO (Grid Dadansoddi ar gyfer Amgylcheddau sy’n Gysylltiedig â Gordewdra) i gwmpasu’r strategaeth genedlaethol.

Mae’r fframwaith hwn wedi ei sefydlu mewn model ecolegol sy’n cydnabod ffactorau amgylcheddol, biolegol ac ymddygiad ond yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r amgylchedd yn dylanwadu ar ordewdra. Mae’r fframwaith yn hwyluso dealltwriaeth o’r ffordd y gallai amgylcheddau achosi gordewdra ac mae hefyd yn offeryn ymarferol ar gyfer blaenoriaethu ymyriadau.

Mae’r fframwaith sylfaenol yn ystyried maint amgylcheddol (macro neu ficro) yn ôl math: ffisegol (beth sydd ar gael); economaidd (beth yw’r costau); gwleidyddol/deddfwriaethol (beth yw’r rheolau) a diwylliannolgymdeithasol (beth yw’r agweddau a’r credoau).

Yn y fframwaith hwn, gall y pethau hynny sydd yn dylanwadu ar fwyd a gweithgaredd corfforol gael eu priodweddu fel rhai sy’n achosi gordewdra, yn cyfrannu at fagu pwysau, neu i’r gwrthwyneb fel rhai leptogenig, gan gyfrannu at golli pwysau.

Cyhoeddwyd adolygiad o lenyddiaeth ar ymyriadau polisi i fynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n achosi gordewdra gan ddefnyddio’r fframwaith hwn, gydag ystyriaeth benodol i’r boblogaeth sy’n oedolion yn yr Alban, yn 2011. Rhoddodd yr adolygiad hwn drosolwg o’r llenyddiaeth ar atal gordewdra ymysg oedolion ar draws yr ANGELO. Yr ymagwedd gychwynnol a fabwysiadwyd gan yr adolygiad hwn oedd edrych am dystiolaeth ymchwil ar ymyriadau polisi effeithiol neu addasiadau i’r amgylchedd adeiledig oedd yn hybu gweithgaredd corfforol, yn lleihau deiet afiach neu’n hybu deiet iachach. Cafodd y dull ei ymestyn wedi hynny i gynnwys ystod llawer ehangach o ffynonellau. I gefnogi datblygiad strategaeth genedlaethol Cymru, cynhaliwyd adolygiad o dystiolaeth yn seiliedig yn fras ar ddiweddaru adolygiad 2011.

Mae’r adolygiad hwn o dystiolaeth ymchwil, trosolwg o’r dystiolaeth yn mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n achosi gordewdra, wedi cael ei greu gan Wasanaeth Tystiolaeth Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) ar gyfer Cyfarwyddiaeth Gwella Iechyd PHW. Mae’n ffurfio rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Atal a Lleihau Gordewdra.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adolygu tystiolaeth o amgylchedd obesogenaidd - Adroddiad technegol

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Adolygu tystiolaeth o amgylchedd obesogenaidd - Adroddiad technegol (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig