Adolygiad thematig o farwolaethau pobl ifanc yn eu harddegau mewn cerbydau modur 2013
Awduron: Dr Sarah J Jones, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, Beverley Heatman, Rheolwr y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant , Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Gwybodaeth Iechyd
Yng ngham peilot y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Cenedlaethol, nodwyd yr angen am adolygiad o farwolaethau plant a phobl ifanc mewn cerbydau modur.
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn cael ei hailsefydlu yng Nghymru. Nod y rhaglen yw nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant, gan gynnwys unrhyw dueddiadau, ac argymell camau gweithredu i leihau’r risg yn sgil ffactorau y gellir eu hosgoi sy’n cyfrannu at y marwolaethau hyn. Un o amcanion y rhaglen yw cynnal adolygiadau thematig a gwneud argymhellion. Dyma adolygiad thematig cyntaf y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant a ailsefydlwyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2013a).
Mae gwrthdrawiadau cerbydau modur sy’n arwain at farwolaeth pobl ifanc yn eu harddegau sy’n teithio yn y cerbydau hynny yn un o brif achosion marwolaeth y gellir eu hatal ymhlith plant yng Nghymru. Noda Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2013b) fod 375 o farwolaethau yn sgil rhesymau allanol wedi’u cofnodi ymhlith plant a phobl ifanc (0-17 oed) rhwng 2002 a 2011. Roedd 30% o’r rhain (113) yn sgil damweiniau traffig ar y ffyrdd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau (12-17 oed); ac roedd 56% (63) o’r bobl ifanc hynny yn deithwyr mewn cerbydau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adolygiad thematig o farwolaethau pobl ifanc yn eu harddegau mewn cerbydau modur - 2013
PDF, 335KB
Llawrlwytho PDF - Adolygiad thematig o farwolaethau pobl ifanc yn eu harddegau mewn cerbydau modur - 2013 (335 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adolygiad thematig – marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017 – Prif Adolygiad
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn ymroddedig i ail-adrodd adolygiad o farwolaethau plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy hunanladdiad yn dilyn ei adolygiad cyntaf yn 2014.
Cyhoeddwyd: 2il Ionawr 2017
-
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad addiad tebygol 2013 i 2017
Adolygiad thematig marwolaethau plant trwy hunanladdiad tebygol 2013 i 2017, crynodeb.
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed, Cymru, 2013 i 2022
Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol yn y maes diogelwch dŵr yng Nghymru er mwyn atal marwolaethau cysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc […]
Cyhoeddwyd: 3ydd Gorffennaf 2023
-
Adolygiad cyflym – marwolaethau plant oherwydd brathu/ ymosod gan gŵn
Mae cŵn yn gydymaith gwerthfawr i lawer o deuluoedd. Mae eu cymdeithasoli’n gynnar â phlant ac eraill yn bwysig ar gyfer cŵn teulu. Er mai prin yw’r achosion o farwolaethau […]
Cyhoeddwyd: 1af Medi 2014
-
Ymateb cyflym i farwolaethau plant o lid yr ymennydd a chlefyd meningococol yng Nghymru
Mae’n ceisio disgrifio niferoedd yr achosion sy’n hysbys i’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ac adnabod canllawiau/ argymhellion allweddol sy’n bodoli ar gyfer y Deyrnas Unedig a allai gyfrannu at leihau […]
Cyhoeddwyd: 22ain Hydref 2014
-
Adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol 2006 i 2012
Cynhaliodd y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yr adolygiad thematig hwn i archwilio’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at farwolaethau drwy hunanladdiad, nodi cyfleoedd i atal marwolaethau o’r fath a gwneud argymhellion […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2014