Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adolygiad cyflym y 4 gwlad o farwolaethau ymhlith plant oherwydd Streptococws Grŵp A ymledol (iGAS)

Manylion:

Awduron: Lluniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy a’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Cronfa Ddata Genedlaethol Lloegr ynghylch Marwolaethau Plant, Iechyd Cyhoeddus yr Alban (Y Tîm Pathogenau Bacterol Anadlol), National Hub for Reviewing and Learning from the Deaths of Children and Young People (Healthcare Improvement Scotland / Care Inspectorate), Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Adolygu Marwolaethau Plant a Phobl Ifanc a Dysgu Ohonynt (Gwella Gofal Iechyd yr Alban / Yr Arolygiaeth Gofal), Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (Y Rhaglen Gwyliadwriaeth Diogelu Iechyd ac Adolygu Marwolaethau Plant).

Cyhoeddwyd ar: 1af Mawrth 2024

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Sylwyd ar gynnydd yn nifer y marwolaethau plant oherwydd Streptococws Grŵp A ymledol (iGAS) yn y DU yn ystod tymor 2022/23, sy’n ymestyn o wythnos 37 i wythnos 36 bob blwyddyn (o ganol mis Medi i ganol mis Medi). Roedd hynny’n cyd-daro â nifer uwch o hysbysiadau ynghylch iGAS a’r dwymyn goch, yn ogystal â Streptococws Grŵp A yn lle hynny o samplau o bibellau anadlu uchaf pobl yn yr Alban lle nad yw’r dwymyn goch yn hysbysadwy. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion ym mhob grŵp oedran, ond roedd y ganran uchaf ymhlith y rhai dan 15 oed. Cafodd Tîm Rheoli Digwyddiadau cenedlaethol ar gyfer y DU ei sefydlu, ac roedd ei nodau’n cynnwys lleihau effaith haint oherwydd iGAS ar boblogaeth bediatrig y DU a darparu gwybodaeth am newidiadau i nifer yr achosion o’r dwymyn goch ac iGAS.

Mae tystiolaeth flaenorol wedi nodi bod marwolaethau o ganlyniad i haint oherwydd iGAS yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn agos i adeg y diagnosis,1, 2 sy’n batrwm y sylwyd arno yn ystod tymor 2022/23. Mae’n bwysig deall y tueddiadau hyn a nodi cyfleoedd i hwyluso adnabod haint yn gynnar, cynnal asesiadau ymatebol a darparu triniaeth. Mae canllaw arfer gorau’n pwysleisio pwysigrwydd trosglwyddo claf yn gynnar i’r ysbyty.

Ochr yn ochr â dadansoddiad a disgrifiad meintiol o farwolaethau o ganlyniad i haint oherwydd iGAS, gallai adolygiad mwy manwl o achosion o farwolaethau ymhlith plant nodi patrymau a themâu a allai lywio gwaith atal, a hynny’n fwy penodol wrth adolygu marwolaethau y tu allan i’r ysbyty, er mwyn taflu goleuni pwysig a darparu gwybodaeth bwysig sy’n arwain at gamau gweithredu y gellid eu cymryd mewn lleoliad cymunedol. O ystyried y niferoedd bach o farwolaethau ymhlith plant, o gymharu â nifer yr achosion yn gyffredinol, cafodd dull gweithredu ar lefel y DU gyfan ei ddefnyddio er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o allu adnabod themâu.

Hwylusodd cydweithio rhwng timau iechyd cyhoeddus a thimau Adolygu Marwolaethau Plant ar draws pob un o’r pedair gwlad adolygiad cyflym o farwolaethau yn y gymuned, a oedd yn ymwneud â haint oherwydd iGAS, a’r bwriad oedd adnabod themâu, patrymau a mesurau lliniaru allweddol a allai arwain yn y pen draw at leihau nifer y marwolaethau ymhlith plant o ganlyniad i haint oherwydd iGAS.

Mae darpar gynulleidfa’r adroddiad yn cynnwys y sawl sy’n ymwneud â chynllunio, cyllido a darparu gwasanaethau iechyd plant.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adolygiad cyflym y 4 gwlad o farwolaethau ymhlith plant oherwydd Streptococws Grŵp A ymledol (iGAS)

PDF, 455KB

Llawrlwytho PDF - Adolygiad cyflym y 4 gwlad o farwolaethau ymhlith plant oherwydd Streptococws Grŵp A ymledol (iGAS) (455 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig