Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

A yw mynediad cyffredinol at asesiadau o anghenion yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd a datblygiad plant: Adolygiad cwmpasu byr o’r llenyddiaeth

Manylion:

Awduron: Hannah Shaw, Dr Kirsty Little

Cyhoeddwyd ar: 1af Mehefin 2022

  • Rhyngwladol

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg cryno o ganfyddiadau chwiliad cwmpasu a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi ffynonellau perthnasol i’r cwestiwn canlynol: a yw mynediad cyffredinol at asesiadau o anghenion yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd a datblygiad plant. Mae’n canolbwyntio, os yn bosibl, ar asesiadau o anghenion cymdeithasol mwy ffurfiol a gynhelir gan ymwelwyr iechyd.

Roedd y gwaith cwmpasu cychwynnol yn edrych ar fynediad cyffredinol at asesiadau o angen (neu fecanwaith atgyfeirio) a’i effaith ar iechyd a datblygiad plant. Ategwyd y gwaith cwmpasu cychwynnol gan chwiliad mwy penodol a oedd yn edrych ar lenyddiaeth sy’n archwilio mynediad cyffredinol i asesiadau o angen gan wasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu, gan fod hon yn un agwedd ar wasanaethau ymwelwyr iechyd gwell.

Lawrlwythiadau adroddiadau

A yw mynediad cyffredinol at asesiadau o anghenion yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd a datblygiad plant - Adolygiad cwmpasu byr o’r llenyddiaeth

PDF, 288KB

Llawrlwytho PDF - A yw mynediad cyffredinol at asesiadau o anghenion yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd a datblygiad plant - Adolygiad cwmpasu byr o’r llenyddiaeth (288 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig