Neidio i'r cynnwys

Taflen wybodaeth i reolwyr cyn-ysgol

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am amddiffyn staff a phlant rhag clefydau y gellir eu hatal â brechlynnau.

Bob blwyddyn mae imiwneiddio yn arbed mwy o fywydau ledled y byd nag unrhyw ymyriad meddygol arall. Yng Nghymru, mae imiwneiddio yn fesur allweddol o ran cadw plant yn iach a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt.

Mae meithrinfeydd a lleoliadau cyn ysgol yn chwarae rhan werthfawr wrth atal achosion o glefydau y gellir eu hatal â brechlynnau drwy hybu brechu plant. Rydym am eich helpu i sicrhau bod yr holl blant a staff sy’n mynychu eich lleoliad cyn ysgol yn cael eu himiwneiddio’n llawn a’u bod yn cael eu himiwneiddiadau arferol. Rydym hefyd am eich helpu i sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid pob plentyn sy’n mynychu eich lleoliad cyn ysgol wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr imiwneiddiadau y dylai eu plentyn fod wedi’u cael.

Rydym yn eich annog yn gryf i gynnwys cwestiynau am statws brechu’r plentyn yn ystod y broses gofrestru. Yn ogystal, bydd cadw cofnod o statws imiwneiddio eich staff yn helpu i’w hamddiffyn nhw a’r plant yn eich gofal fel rhan sylfaenol o reoli heintiau. Os bydd brigiad o achosion o glefyd, fel yr achosion diweddar o’r frech goch, mae mynediad at statws imiwneiddio plant a staff yn eich lleoliad cyn ysgol yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon. Os byddwch yn canfod unrhyw frechiadau a fethwyd, ystyriwch greu cynllun gweithredu gyda’r aelod o staff a’i adolygu pan fyddwch yn cynnal eich adolygiadau staff.