Taflen gwybodaeth ad-drefnu bob dwy flynedd
Mae sgrinio llygaid diabetig wedi newid i bobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig. Os nad oedd arwyddion o glefyd llygaid diabetig yn eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf, fe’ch sgriniir yn ddiogel bob dwy flynedd yn lle bob blwyddyn. Bydd pawb arall yn cael eu sgrinio fel arfer.