Sgrinio’r coluddyn beth sy’n digwydd nesaf
Mae’r daflen hon yn dweud wrthych am beth fydd yn digwydd os byddwch yn cael eich galw’n ôl am brofion pellach ar ôl eich prawf sgrinio coluddyn.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Trawsysgrif
Sgrinio’r Coluddyn – Beth Sy’n Digwydd Nesaf – Eglurhad o ganlyniadau eich prawf a beth sy’n digwydd nesaf.
Diolch am dreulio amser yn cwblhau
a dychwelyd eich pecyn prawf sgrinio’r coluddyn. Mae eich canlyniadau’n dangos fod gwaed wedi cael i ddarganfod yn eich pŵ.
Gall gwaed yn eich pŵ fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill fel polyp (tyfiannau bach).
Efallai bod gwaedu o bolypau (tyfiannau bach) neu gyflyrau eraill fel hemoroidau (piles)
wedi achosi’r canlyniad hyn, yn hytrach na chanser y coluddyn.
Mae’n siŵr bod gennych gwestiynau am beth sy’n digwydd nesaf.
Gobeithio y bydd y fideo hwn yn helpu i ateb eich cwestiynau.
Beth sy’n digwydd nawr?
Hoffem gynnig apwyntiad ffôn i chi gydag un o’n nyrsys sgrinio, a fydd yn eich asesu ac
yn trafod ymchwiliadau pellach (colonosgopi) gyda chi. Gall yr alwad ffôn hon gymryd hyd at awr.
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad cyfleus gyda nyrs sgrinio.
Gallwch yrru ebost i ni ar: [email protected] neu
ffoniwch y llinell gymorth rhadffôn ar 0800 294 3370.
Os oes angen cyfieithydd BSL arnoch, gallwn ni drefnu hwn i chi.
Apwyntiad asesu
Bydd y nyrs sgrinio yn eich gweld yn eich canolfan asesu agosaf
neu’n eich ffonio ar yr amser yr ydych wedi trefnu, i drafodmchwilio’ch
coluddyn (colonosgopi). Yn ystod yr apwyntiad dros y ffôn, bydd y nyrs sgrinio yn gofyn cwestiynau i weld a ydych
yn ddigon iach i gael colonosgopi. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau am y canlynol:
Eich iechyd yn gyffredinol
(fel clefyd siwgwr (diabetes), neu asthma)
Unrhyw lawdriniaethau yr ydych wedi eu cael;
Meddyginiaethau yr ydych yn eu cymryd ar hyn o bryd.
Bydd y nyrs sgrinio hefyd yn
trafod y canlynol gyda chi:
Beth yw colonosgopi a pham
eich bod yn cael ei gynnig
Risgiau a manteision cael colonosgopi;
Os cawsoch ddigon o wybodaeth
oddi wrthym i’ch helpu i wneud penderfyniad
ynglŷn â chael colonosgopi
Sut i gymryd carthyddion (laxatives)
cyn cael colonosgopi
Beth y gallwch ac na allwch ei fwyta cyn,
yn ystod ac ar ôl cymryd y carthyddion
Y dewis o gael tawelydd (sedative) neu gyffur lleddfu poen (
neu’r ddau) yn ystod y colonosgopi
Mathau o dawelyddion a
dulliau lleddfu poen
Effaith y tawelydd a beth i’w wneud a pheidio
ei wneud yn y cyfnod ar ôl y colonosgopi
Byddwch yn cael cyfle i drafod unrhyw
bryderon neu ofyn cwestiynau
Beth yw colonosgopi?
Ffordd o edrych ar leinin eich
coluddyn mawr (colon),
yw colonosgopi lle mae tiwb hyblyg gyda
olau a chamera ar un pen (colonosgôp)
yn cael ei roi yn eich pen ôl i weld
os oes afiechyd yn bresennol.
Wrth i’r colonosgôp symud drwy eich coluddyn mawr,
defnyddir y camera i dynnu lluniau a fideos
ar gyfer y colonosgopydd i’w gwirio a oes gennych
unrhyw glefyd neu lid o’r coluddyn â’i beidio.
Yn ystod yr ymchwiliad, gall y
colonosgopydd dynnu’r polypau
neu gymryd samplau bach o leinin
eich coluddyn i’w dadansoddi.
Beth yw polyp?
Tyfiant bach ar leinin y coluddyn yw polyp sy’n cael
ei weld yn ystod y colonosgopi.
Fel arfer, mae polypau’n cael eu tynnu oherwydd
gallant dyfu ac achosi problemau’n ddiweddarach. Yr enw ar hyn yw polypectomi. Weithiau mae polypau’n datblygu’n ganser.
Paratoi ar gyfer y colonosgopi
Bwyta ac yfed
Os ydych yn cael colonosgopi, mae’n rhaid i
ni weld y coluddyn yn glir.
Byddwn yn anfon carthydd atoch er mwyn i chi wagio’ch coluddyn.
Bydd y carthydd yn gwneud i chi gael dolur rhydd
felly bydd angen i chi aros yn agos i doiled ar ôl i chi ddechrau ei gymryd. Mae’n normal
cael rhywfaint o wynt neu chrampiau yn eich bol tra
byddwch yn cymryd y carthydd.
ydd eich nyrs sgrinio yn trafod beth y gallwch
ac na allwch ei fwyta cyn, yn ystod
ac ar ôl cymryd y carthyddion. Byddwn yn anfon y carthyddion atoch yn y post gyda chyfarwyddiadau.
Dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n dod gyda’r carthyddion. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau,
cysylltwch â’ch nyrs sgrinio.
Gallwch ddod â’ch bwyd eich hun i’w fwyta
ar ôl eich colonosgopi os ydych yn meddwl
y bydd angen bwyd arnoch.
Meddyginiaethau
Dylech gymryd y rhan fwyaf o feddyginiaethau cyffredinol yn ôl yr arfer. Efallai y bydd yn rhaid ymatal rhag
cymryd rhai meddyginiaethau cyn eich colonosgopi, er enghraifft meddyginiaeth
i deneuo’r gwaed. Dywedwch wrth eich nyrs sgrinio os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau.
Alergeddau
Dywedwch wrth eich nyrs sgrinio
os oes gennych alergedd i latecs
neu unrhyw alergeddau eraill.
Cofiwch
Cysylltwch â ni i drefnu
Gallwch yrru ebost i ni ar:
[email protected] neu
ffoniwch y llinell gymorth rhadffôn ar 0800 294 3370.
Os oes angen cyfieithydd BSL arnoch,
gallwn ni drefnu hwn i chi.
Darllenwch yr holl wybodaeth a
anfodwyd gyda’r llyfryn yma.
Sut rydym yn defnyddio’ch manylion
a gwybodaeth
Cedwir eich manylion a’ch
gwybodaeth yn gyfrinachol.
Am fwy o wybodaeth am sut
mae Sgrinio Coluddion Cymru
yn defnyddio eich manylion,
ewch i’n gwefan.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio’r coluddyn, neu os hoffech wybodaeth mewn fformat arall, sef:
Hawdd ei Ddeall;
Iaith Arwyddion Prydain (BSL);
Sain;
print bras; neu yn
Saesneg
Ebostiwch ni: [email protected]
ewch i’n gwefan neu ffoniwch y llinell gymorth Rhadffôn ar: 0800 294 3370
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg.
Byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg heb oedi.