Neidio i'r cynnwys

Safonau allweddol ar gyfer glendid amgylcheddol

Mae’r adnodd hwn yn nodi cyfres o safonau ac egwyddorion sydd wedi’u hargymell i holl sefydliadau GIG Cymru eu cynnal o fewn eu lleoliadau ac i gynorthwyo staff sy’n ymwneud â glanhau a diheintio’r amgylchedd. Er bod yr atodiad COVID-19 cyntaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lleoliadau ysbytai acíwt a chymunedol yn ddiogel, mae’r safonau diwygiedig yn fwy trosglwyddadwy. Ar y cyfan, mae’r safonau’n berthnasol i bob lleoliad gofal iechyd a gwasanaethau cymorth ategol. Mae’r safonau diwygiedig yn pwysleisio’r angen am asesu risg wrth bennu amlder a dull glanhau/diheintio yn ogystal â phwysigrwydd monitro effeithiolrwydd a rhoi gwybod am ddiffyg cydymffurfio. Dylid ystyried y ffigur a roddir yn y tabl o ran pa mor aml y dylid glanhau fel isafswm. Mewn rhai sefyllfaoedd gall sefydliadau ystyried a ddylid cynyddu amlder glanhau yn seiliedig ar y nifer o gleifion, y llif cleifion, a risg hysbys neu a amheuir o fewn ardaloedd clinigol unigol.