Neidio i'r cynnwys

Rhestr wirio ddwyieithog y brechlyn MVA-BN rhag y frech M

Rhestr wirio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth asesu unigolyn ar gyfer ei frechu yn erbyn y frech M gan ddefnyddio’r brechlyn MVA-BN (‘Modified Vaccinia Ankara – Bavarian Nordic’) ar gyfer y frech wen/mpox.

Nid yw ateb ‘ie’ i’r cwestiynau hyn bob amser yn golygu na ellir rhoi’r brechlyn, ond gall olygu bod angen rhagor o wybodaeth cyn y brechiad. Os ‘na’ yw’r ateb i’r holl gwestiynau hyn, yna gall y brechiad gael ei roi fel y cynlluniwyd.