Rheoli’r gofal am doriadau Cesaraidd
Mae’r adnodd hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth fel yr hyn a roddwyd yn y cyflwyniad hyfforddi ar reoli’r gofal am doriadau Cesaraidd. Bydd cyfeiriadau i’w gweld trwy gydol y llyfryn, a’r manylion llawn i’w cael ar y diwedd. Mae’n cynnwys syniadau defnyddiol am ddarllen pellach..
Mae Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru yn rhan o isadran Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Rhaglen ddatblygu a chefnogi’r gwaith o gynnal gwyliadwriaeth yn dilyn gweithdrefnau torri Cesaraidd a gynhelir yn ysbytai’r GIG yng Nghymru. Daeth hyn yn broses orfodol o fis Ionawr 2006 ymlaen. Mae Heintiau Safle Llawfeddygaeth (SSI) yn faes pwysig ar gyfer gwyliadwriaeth ac mae’n parhau i fod yn gymhlethdod llawdriniaeth sydd â chostau dynol ac ariannol uchel.