Neidio i'r cynnwys

Rhaglen dal i fyny oedran ysgol  

Mae’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) wedi datblygu dau arolwg byr, dienw i gasglu gwybodaeth am y rhwystrau, y galluogwyr a’r cymhellion dros fynychu apwyntiadau brechu dal i fyny. Mae un arolwg ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid, ac un ar gyfer pobl ifanc.

Er mwyn ein helpu i gasglu adborth, mae VPDP wedi cynhyrchu poster a cherdyn post, sy’n cynnwys codau QR sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r arolygon. Mae’r adnoddau rhad ac am ddim hyn ar gael i’w harchebu yma, ac fe’u bwriedir i’w defnyddio mewn clinigau brechu a lleoliadau perthnasol eraill.