Pryd ddylwn i boeni? Eich arweiniad i beswch, annwyd, pigyn clust a dolur gwddf
Mae ‘Pryd ddylwn i boeni?’ yn llyfryn a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan PRIME Cymru, Is-adran Meddygaeth Poblogaethau, Prifysgol Caerdydd. Mae’n rhoi gwybodaeth i rieni am reoli heintiau llwybr anadlol (peswch, annwyd, dolur gwddf, a phigyn clust) mewn plant, ac mae wedi ei gynllunio ar gyfer ei ddefnyddio mewn ymgynghoriadau gofal sylfaenol.
Cafodd ei werthuso mewn treial rheoledig ar hap, a dangoswyd y gallai defnyddio’r llyfryn arwain at ostwng faint o wrthfiotigau a roddir ar bresgripsiwn o ddwy ran o dair, a hynny heb effeithio ar foddhad rhieni.