Neidio i'r cynnwys

Protocol imiwneiddio oedolion sydd wedi cael trawsblaniad – blynyddoedd 1–3

Mae’r protocol hwn yn darparu amserlen imiwneiddio gynhwysfawr i oedolion yn y tair blynedd gyntaf ar ôl trawsblaniad bôn-gelloedd neu fêr esgyrn. Mae’n amlinellu pa bryd a pha fath o frechlynnau a argymhellir, gan gynnwys PCV13, MenB, DTaP/IPV/Hib/HepB, a MenACWY. Mae’r ddogfen hefyd yn nodi meini prawf ar gyfer rhoi brechlynnau byw, sydd wedi’u gwanhau e.e. brechlynnau rhag MMR a’r eryr, ac yn pwysleisio pwysigrwydd ymgynghori â’r tîm trawsblannu cyn eu rhoi. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar ohirio imiwneiddiadau os yw’r claf yn cymryd steroidau dos uchel ac yn cynnig argymhellion ar gyfer brechiadau blynyddol rhag ffliw a COVID-19.