Pecyn cymorth tegwch iechyd a chynhwysiant iechyd ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru
Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i helpu’r sawl sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol neu’n gysylltiedig â’r maes hwnnw i ystyried anghydraddoldebau ym mhob agwedd ar gynllunio a/neu weithredu gwasanaethau, rhaglenni, neu ymyriadau penodol wedi’u targedu.
Yn fwy addas ar gyfer y sawl sy’n gyfrifol am ddatblygu ac ysgrifennu cynlluniau strategol a gweithredol mewn manylder. Fersiwn fanwl o’r rhestr wirio gyda chamau pellach a manylion. Mae’r offeryn yn cynnwys awgrymiadau i arwain eich gwaith o ddatblygu gwasanaeth teg. Mae’n cynnwys lle i gofnodi a myfyrio, ynghyd â dolenni i adnoddau a gwybodaeth berthnasol yn y ddogfen ac i wefannau allanol.
Gweld y rhestr wirio tegwch iechyd sydd yn rhan o’r pecyn cymorth hwn.