Neidio i'r cynnwys

Offeryn sbarduno uwchgyfeirio RAG generig i feirysau anadlol y gaeaf

Mae offeryn Sbarduno Uwchgyfeirio RAG i feirysau anadlol y gaeaf ar gyfer gwisgo masgiau wedi’i gynllunio fel cymorth ymarferol i gefnogi sefydliadau i asesu risg a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch pryd i weithredu mesurau gwisgo masgiau cyffredinol.

Nid yw’n disodli barn broffesiynol na pholisïau lleol ond mae’n gwasanaethu fel canllaw strwythuredig i helpu i werthuso ffactorau allweddol megis risg trosglwyddo, bregusrwydd poblogaethau cleifion, ac ystyriaethau gweithredol. Drwy ddarparu fframwaith clir, nod yr offeryn hwn yw gwella cysondeb a hyder wrth wneud penderfyniadau yn ystod cyfnodau o risg uwch o haint feirws anadlol.