Offeryn rhyngweithiol UGY: Nodi a chymhwyso technegau newid ymddygiad
Mae’r offeryn rhyngweithiol hwn yn edrych ar gam 5 ‘adeiladu’r ymyrraeth’ lle rydym yn archwilio sut i nodi a chymhwyso Technegau Newid Ymddygiad i’n hymyriadau newid ymddygiad (BCTs). BCTs yw ‘cynhwysion gweithredol’ ymyrraeth sy’n seiliedig ar theori a thystiolaeth. Os ydych chi wedi defnyddio ein hofferynnau blaenorol yn y gyfres hon bydd gennych naill ai ymyrraeth newydd, neu ymyrraeth ddiwygiedig, sydd wedi’i datblygu gan ddefnyddio modelau a fframweithiau o wyddor ymddygiad. Mae nodi’r BCTs cywir a’u cynnwys yn eich ymyrraeth yn briodol yn hanfodol er mwyn dilyn y wyddor ymddygiad drwodd i lywio cynnwys ein hymyrraeth. Bydd yr offeryn olaf, offeryn 6, yn ymdrin â sut i weithredu a gwerthuso eich ymyrraeth.